Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.01 - 10.03 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Lindsay Whittle (yn lle Bethan Jenkins) Ann Jones (yn lle Joyce Watson) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, y dirprwywyd ar ei rhan gan Lyndsay Whittle AC, a Joyce Watson AC y dirprwywyd ar ei rhan gan Ann Jones AC.
2 Trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2014 - P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i geisio hwyluso ffordd ymlaen sy’n cynnwys partneriaid fel:
· Plant yng Nghymru
· Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi;
· Comisiynydd Plant Cymru, a
· Chynrychiolydd o Gomisiwn y Cynulliad.
3 Deisebau newydd
3.1 P-04-602 Personoleiddio Beddau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· dynnu sylw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Angladdau a Phrofedigaeth at y ddeiseb; ac
· anfon sylwadau’r deisebwyr at y Gweinidog, o gofio’r ymrwymiad a wnaeth i edrych ar y mater ymhellach.
3.2 P-04-603 Helpu babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos i oroesi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar sylwadau’r deisebydd am sail ei deiseb ac, yn benodol, am ei farn ynghylch a ddylai cymorth meddygol gael ei roi i fabanod a anwyd yn fyw ac yn anadlu; a
· gofyn am bapur briffio ymchwil sy’n cymharu’r modd yr ymdrinnir â’r materion hyn yng Nghymru a chenhedloedd eraill o fewn y DU.
3.3 P-04-604 Ynghylch diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes a chanslo cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig ym Mhowys.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am ei farn ynghylch a yw amcanion y ddeiseb wedi’u cyflawni ai peidio.
3.4 P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y cynllun gan y Gweinidog, yn ôl ei addewid.
4.2 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn diolch iddi am y wybodaeth ddiweddaraf ac yn gofyn iddi roi gwybod i’r Pwyllgor am y datblygiadau, ac am yr ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
4.3 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.
4.4 P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn tynnu ei sylw at lythyr y deisebwyr, ac yn benodol at eu pryderon ynghylch yr oedi cyn ymestyn y terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr i groesi Pont Afon Gwy.
4.5 P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
Gweler y camau gweithredu y cytunwyd arnynt o dan eitem 4.7.
4.6 P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo
Gweler y camau gweithredu y cytunwyd arnynt o dan eitem 4.7.
4.7
5.1 P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
i ysgrifennu at y Gweinidog yn mynegi siom nad oedd ei hateb yn ateb llawer o gwestiynau’r Pwyllgor, a gofyn iddi roi sylw i’r cwestiynau hyn yn awr fel mater o flaenoriaeth.
4.8 P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
4.9 P-04-561 Hyrwyddo rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru i annog pobl i gymryd rhan
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
4.10 P-04-397 Cyflog Byw
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
i aros am ganlyniad cyfarfod y Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Rhagfyr.
4.11 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
i aros am ganlyniadau’r adolygiad o’r sefyllfa ym mis Ebrill 2015.
4.12 P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
i gau’r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog a phenderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf.
4.13 P-04-593 Rhoi cyngor i ysgolion ar ymweliadau â Noah’s Ark Zoo Farm
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
4.14 P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
i gau’r ddeiseb gan fod y Llywodraeth wedi gwneud ei safbwynt ar y ddeiseb yn glir, ac mae wedi cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn.
4.15 P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog ymateb i’r pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y deisebydd, ac i’r materion a godwyd mewn gohebiaeth gan Byron Davies AC.
4.16 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
4.17 P-04-582 Newid Mawr ei Angen i’r Rheolau yn ein Hysgolion o ran Llau Pen a Nedd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
4.18 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
i ofyn i’r Gweinidog ymateb i sylwadau pellach y deisebydd.
4.19 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.
4.20 P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i dynnu sylw’r Gweinidog at sylwadau pellach y deisebydd. Yn benodol, at y gwahoddiadau i gwrdd â’r deisebwyr i drafod eu cynnig, ac i sicrhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o’r digwyddiad yn y Senedd ar 11 Rhagfyr, sy’n rhan o’r broses o werthuso Cyfleoedd Gwirioneddol.